Gwybodaeth gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru

Fel corff sy'n cynrychioli cynhyrchwyr llyfrau Cymraeg hoffai Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru fanteisio ar y cyfle i ymateb i’r alwad am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn cynrychioli 14 o gyhoeddwyr Cymraeg amlycaf Cymru – busnesau, cymdeithasau a sefydliadau yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y toriad llym sydd wedi ei glustnodi ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru.

1) Gyda’r diwydiant eisoes yn gweithredu o fewn cyllideb dynn ers sawl blwyddyn, mae’r toriad a weithredwyd yn 2015-2016 yn golygu nad oes cymorth ariannol bellach ar gyfer cynhyrchu e-lyfrau, hyrwyddo rhaglen gyhoeddi cyson drwy’r flwyddyn, hyrwyddo gwerthiant uchel na’r rhan fwyaf o gostau lansio llyfrau. Dylid nodi hefyd na fu cynnydd yn ôl graddfa chwyddiant i’r grantiau llyfrau Cymraeg ers chwe mlynedd.

2) Gall y toriad o £374,000 yng nghyllideb y Cyngor Llyfrau ar gyfer 2016-2017 – sy’n ymddangos yn swm bychan i gyllideb Llywodraeth Cymru – achosi niwed sylweddol a pharhaol llawer mwy pellgyrhaeddol na’r arian a gollir yn uniongyrchol. Mae yna bryder gwirioneddol o fewn y diwydiant cyhoeddi llyfrau Cymraeg ar hyn o bryd ynghylch sut yn union fydd modd ymdopi gyda thoriad o 10.6%.

Fel cyhoeddwyr, rydym yn ystyried y toriad hwn yn ymosodiad peryglus ar y diwydiant llyfrau, ac ar yr iaith Gymraeg. O’r hyn a ddeallwn, ni fydd Cylchgronau Cymraeg (na Saesneg) yn cael eu heffeithio gan y toriad (am eleni beth bynnag) gan fod tendrau eisoes wedi eu cadarnhau, ac o’r herwydd bydd effaith y toriad yng nghyllideb y Cyngor Llyfrau i’w deimlo gymaint a hynny yn fwy o fewn y diwydiant llyfrau.

Does dim dwywaith y bydd y toriad hwn yn arwain at docio sylweddol yn nifer y llyfrau Cymraeg fydd yn cael eu cynhyrchu. Bydd hefyd yn gwanhau’r sector greadigol yn gyffredinol oherwydd y gorgyffwrdd sydd yna rhwng cynhyrchu llyfrau a meysydd eraill.

Bydd cwtogi ar nifer y llyfrau dan nawdd yn gwneud y gweisg yn llai abl i fuddsoddi mewn llyfrau masnachol a bydd y diwydiant cyfan yn crebachu a swyddi yn cael eu colli. Mae’r diwydiant cyhoeddi yn faes ag iddo gadwyn gyflenwi eang: siopau llyfrau, llyfrgelloedd, awduron, argraffwyr, dylunwyr, ffotograffwyr, artistiaid a golygyddion, ac mae’n cyfrannu’n economaidd at ddiwydiannau eraill megis twristiaeth a gwasanaethau megis y byd addysg.

Amcangyfrifir bod y diwydiant cyhoeddi yn cynnal gweithlu o tua 1,000 ar hyd a lled Cymru (yn cynnwys cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, ond nid awduron), ond mae nifer sylweddol o’r swyddi sy’n uniongyrchol ddibynnol ar y diwydiant wedi eu lleoli yng ngorllewin Cymru, a bydd y toriadau yn benodol yn gwanhau economi fregus cefn gwlad Cymru. Mae’r rhain yn ardaloedd difreintiedig sydd yn dioddef effeithiau toriadau mewn nifer o wahanol ffyrdd, ymhell o ganolfannau dinesig ble mae’r twf yn digwydd.

3) Pe gweithredir argymhellion y gweinidog yn 2016-2017 byddai’r effaith ar y diwydiant llyfrau Cymraeg yn andwyol ac anadferadwy. Roedd y newydd ynghylch toriad o 10.6% yn gwbl annisgwyl i’r Cyngor Llyfrau ac felly mae’n gadael y cyhoeddwyr Cymraeg mewn sefyllfa eithriadol o fregus. Mae cynllunio ar gyfer llyncu toriad eithafol o’r math yma ar fyr rybudd yn mynd i fod yn tu hwnt o heriol. Ymhellach, mae unrhyw gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod hefyd yn mynd i fod yn eithriadol o anodd a bydd gofyn am gynllunio manwl er mwyn sicrhau bod dyfodol i’r byd cyhoeddi Cymraeg.

Buddsoddiad mewn diwydiant yw arian Llywodraeth Cymru i’r diwydiant. Mae’r diwydiant ei hun yn buddsoddi’n helaeth ar ben hynny. Bydd cwtogiad ym muddsoddiad y Llywodraeth yn cael ei chwyddo ymhellach gan leihad ym muddsoddiad y gweisg eu hunain a bydd y niwed i’r diwydiant gymaint â hynny yn fwy.

 

[Sylwer: nid oes modd inni ryddhau gwybodaeth fanwl ynghylch effeithiau’r toriadau ar gyhoeddwyr unigol ar adeg cyflwyno’r ddogfen hon.]

 


4) Wrth i’r pwyllgor ystyried effeithiau’r gyllideb ddrafft ar y Gymraeg, hoffem nodi y bydd toriad ar y raddfa yma yn tanseilio holl ymdrechion eraill y Llywodraeth ym maes llythrennedd, darllen y Gymraeg a datblygu’r iaith Gymraeg. Bydd lleihau’r dewis o lyfrau Cymraeg i blant ac oedolion yn uniongyrchol yn lleihau apêl yr iaith yn y gymdeithas - yn y tymor byr yn ogystal â’r tymor hir. Mae cynnal safonau cynhyrchu ystod eang o lyfrau wedi bod yn her a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan y cyhoeddwyr Cymraeg fel y cadarnhaodd Adroddiad Beaufort ychydig flynyddoedd yn ôl. Rydym yn rhagweld na fydd modd cynnal y llwyddiant hwn yn y dyfodol.

Rydym ni fel Cwlwm Cyhoeddwyr Cymraeg yn galw ar y pwyllgor i holi’r gweinidog am ei resymeg y tu ôl i’w benderfyniad i gyflwyno toriad o 10.6%, a hefyd pa flaenoriaethau gwleidyddol a pha bolisïau mae’n eu dilyn trwy gwtogi ar gyllid y diwydiant llyfrau. Mae’n gwbl amlwg i bawb yn y byd cyhoeddi na wnaed y penderfyniad ar sail gwybodaeth drylwyr o’r diwydiant, ac nad yw wedi rhoi ystyriaeth i’r materion sy’n cael eu cyflwyno yn y ddogfen hon.